MODRON Issue 5: Editorial

A photograph of a lone tree growing at the edge of Kenfig Pool

Issue 5

FULL CONTENTS OF ISSUE 5 HERE.

We are writing to you by fairy lights and listening to yet another storm. Will we be without electricity tonight? Will someone out there in the dark suffer some ‘natural disaster’ while we sleep? Or will we? Something is getting a battering.

We may be a handful of days past the solstice and the darkest day, past Christmas too and now facing the promise of a clean-page new year. However, more nights like these will surely come before spring. Less harvest, more hardship. Winter is often difficult, yet without it there is no vitality later on. Here we are. Whether we like it or not, we sit on the edge of discomfort and darkness.  Nature shows us its bare roots and we in turn feel vulnerable, if we’re willing to admit it. Modron is a place for this honesty.

Part of that honesty means witnessing the upheaval happening globally, and Modron maintains a concern about genocidal violence in Palestine. Any environmental stance must include awareness that ecological crisis is now driving world conflict. In this issue, via an audio recording, Duriel E. Harris, editor of the Obisidian publishing platform, discusses Bisan Owda’s film I’m Bisan from Gaza and I’m Still Alive and witnessing as an important part of what we do as writers. Harris reads a poem ‘Enduring Freedom’, and talks about its context written after the tragic events of  9/11 in New York in 2001, when people became more hostile to people presenting as Arab and called for revenge. Harris highlights the dangers of acting out of revenge then and now, but also the importance of all of us writing about and witnessing events.

In this issue, the danger and poison in the full experience of living is here. We’ll always deliver some awe and reverance – it’s unavoidable and thank-goodness for this constant, determined buzz of writers like Natalie Ann Holborow who in a video film praises the beauty of Oxwich Bay and reminds us not to take it for granted. However, the pattern that’s emerging in this issue is a fierce one, in tune with the dark quarter in the wheel of the year. Once we have ‘sent the summer to bed’, as Mari George writes ( “hel yr haf i’w wely”) in her poem, “Twyll”, what next?

In late November, here in Wales and elsewhere in the UK, we experienced the ravages of Storm Bert. Pontypridd and areas on the banks of the river Taf in particular were engulfed by the torrent of the river. Many of us who love to attend the National Eisteddfod had meandered around Parc Angharad in Pontypridd this summer, danced in the sunshine, bought books and coffees in the highstreet and left a part of our hearts there. It was all under water this winter. Modron 5 was close to publication and as editors, we couldn’t delay before publishing one special item early. If you haven’t already (and if you read in Gymraeg/Welsh) do turn to poet, Hywel Griffiths’ essay “Llifogydd yr Archif: afonydd ardal Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024” (“Floods of the Archive: rivers in the 2024 Rhondda Cynon Taf National Eisteddfod area”). We couldn’t leave this on our desktop while a campaign mounted to help those who had suffered from the floods. Please support if you can. Hywel Griffiths champions the poetry of everyday narrative, of storytelling, words spoken and journalism. He also anchors our suffering today in a history of living with water.

We have many small rivers in Wales named ‘Llafar’ or ‘Clywedog’, (‘Vocal’ and ‘Audible’ respectivly). What are they telling us, what is the conversation? When rivers churn up the riverbanks and bombard our towns with brown liquid, is there something llafar through the ages that might help, today?  Let Hywel Griffiths’ words lead to more vital conversation, and to action. His essay flows right into a Cymraeg poem by Treorchy poet,  Siôn Tomos Owen whose river sings as a choir in the valleys. Please read these as accidental companions.

For our readers who can turn to Cymraeg, we are also proud to present work by Sam Robinson, Lowri Hedd and clare e. potter (who recently received the Jerwood Poetry Award). Many of the poems we have received this time dance between our embodied presence in the natural world as being intertwined or alien, attuned or unwelcomed. In the poems, above, the tir (land) gives us language to understand motherhood, and our own minds, ingredients for cauldrons, and there is always a suggestion that the human body will eventually go “i mewn i’r tir ei hun” –  into the land itself – (Sam Robinson).

The Welsh language is our tir in this issue. We have always been steadfast in curating an online space of diverse voices; we want the poetics of our planet find a safe home here. We also aim to remain connected to our name, “MODRON”, a figure from Welsh mythology, often associated with nature as a mothering, magical force. Importantly, our distinctly Welsh magazine this time brings the full range of published poems back home to the Welsh language, to Cymraeg.

We are very glad to be able to publish, not only ten original poems but also Cymraeg translations of poems by Rosie Hadden, Penelope Shuttle, Simon Madrell, James McConachie, Jonathan Kinsman, Ruth Sharman, Caleb Nichols, Hildred Crill, Kexin Huang and Michelle Szobody. There is no intimate reading of a poem like translating. The biodiversity in these poems from stinkbugs to a blue-ringed octopus are stunning in depiction and often horrible in the in their capacity to meddle with our lives – unpleasently or leathally. Among these poems we have the deepest oceans, the darkest corners of a natural history museum where logic and sight become distorted, we have disaster, venom and drowning. This is where we fail to truly understand nature. This is where we keep trying.

I have come to see our relationship with nature as one of an ongoing translation. Last week’s interview for Modron’s #morethanhuman features Estonian poet Ilmar Lehtpere discussing the process of translating poetry, the moral obligation to be faithful to the original work navigating cultural and linguistic differences. To date, as far as I can find, no name for a blue-ringed octopus exists. With the help of Cymuned Llên Natur Cymru, we have one now. Seaweed names are slippery and need to be used more often so that by naming them, we know them. In spending repeated, slow time with a poem, its seasons, breaths, intimacies become our own. I offer an invitation during these possibly drizzly and cosy days of winter, that you do the same with this issue and live with it slowly.

We hope you enjoy issue 5 of Modron. Issue 6 will be out in late spring. Sign up to our mailing list or you can now follow us on various platforms to find out when our submission window opens:

X

Facebook

Bluesky

Threads

Instagram

As ever, thank you to our dedicated team who include Kristian Evans, Zoë Brigley, Glyn F. Edwards  and Taz Rahman.

Siân Melangell Dafydd

Cymraeg Editor

December 27th 2024


MODRON 5: GOLYGYDDOL

Rwy’n ysgrifennu atoch yng ngolau bach y goeden Nadolig ac yn gwrando ar storm arall. A fyddwn ni heb drydan heno? A fydd rhywun allan yna yn y tywyllwch yn dioddef rhyw ‘drychineb naturiol’ tra byddwn ni’n cysgu? Neu a fyddwn ni? Mae rhywbeth yn cael ei bledu allan yna.  

Rhyw lond llaw o ddyddiau sydd wedi mynd heibio ers Heuldro’r Gaeaf a’r diwrnod tywyllaf; mae’r Nadolig hefyd y tu cefn i ni bellach ac addewid o flwyddyn newydd lân o’n blaenau. Fodd bynnag, bydd mwy o nosweithiau fel hyn yn sicr o ddod cyn y gwanwyn. Llai o gynhaeaf, mwy o galedi. Mae’r gaeaf yn aml yn anodd, ond hebddo nid oes bywiogrwydd yn nes ymlaen. Dyma ni. P’un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, rydym yn eistedd ar erchwyn tywyllwch a’r hyn sy’n anghysurus. Mae byd natur yn dangos ei wreiddiau noeth i ni ac rydym yn ein tro yn teimlo’n fregus, os ydym yn fodlon cyfaddef hynny. Mae Modron yn lle i’r gonestrwydd hwn.

Mae rhan o’r gonestrwydd hwnnw’n golygu bod yn dyst anhawsterau byd-eang, ac mae Modron yn dal i bryderu am drais hil-laddol ym Mhalestina. Rhaid i unrhyw safiad amgylcheddol gynnwys ymwybyddiaeth bod argyfwng ecolegol bellach yn gyrru gwrthdaro byd-eang. Yn y rhifyn hwn, trwy recordiad sain, mae Duriel E. Harris, golygydd platfform cyhoeddi Obisidian, yn trafod ffilm Bisan Owda I’m Bisan from Gaza and I’m Still Alive a sut gall tystio fod yn rhan bwysig o’r hyn a wnawn fel ysgrifenwyr. Mae Duriel E. Harris yn darllen cerdd ‘Enduring Freedom’, ac yn sôn am gyd-destun ei hysgrifennu yn sgil digwyddiadau trasig 9/11 yn Efrog Newydd. Yn y cyfnod hwnnw, roedd cynydd yn y mynegiant gelyniaethus tuag at bobl yn cyflwyno fel Arabaidd, roedd galw am ddial. Tynnu sylw at beryglon dial fel ysgogiad ysgrifennu mae Harris, yn 2001 neu heddiw, ond hefyd pwysigrwydd ysgrifennu am ddigwyddiadau fel hyn a’u tystio.  

Yn y rhifyn hwn, mae perygl a’r gwenwyn yn y profiad llawn o fyw yn y byd yn bresenol. Byddwn bob amser yn cyflwyno rhywfaint o hyfrydwch a gorfoledd am fyd natur. Mae’n anochel fod y wefr gyson, benderfynol honno’n ymddangos, fel yn ffilm fideo’r bardd Natalie Ann Holborow sy’n canmol tlysni Bae Oxwich a’n atgoffa i beidio’i anghofio. Wedi dweud hynny, mae’r patrwm sy’n dod i’r amlwg yn y rhifyn hwn yn un ffyrnig, yn unol â’r chwarter tywyll yn olwyn y flwyddyn. Unwaith y byddwn wedi “hel yr haf i’w wely” fel y mae Mari George yn ysgrifennu yn ei cherdd “Twyll”, beth nesaf?

Tua diwedd mis Tachwedd, yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU, fe brofwyd difrod Storm Bert. Llyncwyd Pontypridd ac ardaloedd ar lan yr afon Taf gan lif yr afon. Roedd llawer ohonom sydd wrth ein bodd yn mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol wedi crwydro o amgylch Parc Angharad ym Mhontypridd yr haf hwn, dawnsio yn yr heulwen, prynu llyfrau a choffi yn y stryd fawr a gadael rhan o’n calonnau yno. Roedd y cyfan o dan lif y Taf erbyn wythnos ola’ mis Tachwedd. Roedd Modron 5 yn agos at gael ei gyhoeddi ac fel golygyddion, ni allem oedi cyn cyhoeddi un eitem arbennig yn gynnar. Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny, trowch at draethawd y bardd, Hywel Griffiths “Llifogydd yr Archif: afonydd ardal Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024″. Penderfynasom gyhoeddi’r gwaith arbennig hwn (a gafodd ei draddodi gan Hywel ar faes yr Eisteddfod ) ar fyrder, gyda’r bwriad o gefnogi’r ymgyrch i gynorthwyo dioddefwyr y llifogydd. Cefnogwch yma os gallwch. Mae Hywel Griffiths yn dod â chân natur naratifau bob dydd i’r amlwg, o hanesion newyddiaduraeth, geiriau llafar, a straeon lleol. Mae hefyd yn angori ein dioddefaint heddiw mewn hanes o fyw gyda dŵr.

Mae gennym lawer o afonydd bach yng Nghymru sy’n dwyn yr enwau ‘Llafar’ neu ‘Clywedog’. Beth maen nhw’n ei ddweud wrthym ni, beth yw’r sgwrs? Pan mae afonydd yn torri eu glannau ac yn peledu ein trefi â hylif brown, a oes ’na rywbeth o lif cynharaf ein hanes allai fod o gymorth, heddiw? Gadewch i eiriau Hywel Griffiths arwain at sgwrs fwy hanfodol, ac at weithredu. Llifa ei draethawd yn syth i gerdd Gymraeg gan y bardd o Dreorci, Siôn Tomos Owen y mae ei afon yn canu fel côr yn y cymoedd. Darllenwch waith Hywel a Siôn fel cymdeithion damweiniol.

Rydym hefyd yn falch o gyflwyno gwaith gan Sam Robinson, Lowri Hedd a clare e. potter a dderbyniodd Wobr Barddoniaeth Jerwood yn ddiweddar. Mae llawer o’r cerddi a gawsom y tro hwn yn dawnsio rhwng ein presenoldeb corfforedig yn y byd naturiol fel un sy’n perthyn neu’n estron, mewn harmoni neu heb groeso iddo. Yn y cerddi uchod, mae’r ddaear yn rhoi iaith i ni ddeall sut i fagu, sut rydym yn meddwl, pa gynhwysion gawn ar gyfer ein crochan, ac mae awgrym bob amser y bydd y corff dynol yn mynd “i mewn i’r tir ei hun” yn y pen draw (Sam Robinson).

Yr iaith Gymraeg yw ein tir cadarn yn y rhifyn hwn. Rydym bob amser wedi bod yn ddygn wrth guradu gofod ar-lein o leisiau amrywiol. Rydym am i farddoniaeth ein planed ddod o hyd i gartref diogel yn y tudalennau digidol yma. Anelwn hefyd at barhau i fod yn gysylltiedig â’n henw, “MODRON”, ffigwr o chwedloniaeth Gymreig, a gysylltir yn aml â byd natur fel grym mamol, hudolus. Yn bwysig, mae ein cylchgrawn Cymreig y tro hwn yn dod â’r ystod lawn o gerddi cyhoeddedig yn ôl adref i’r Gymraeg.

Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi, nid yn unig deg cerdd wreiddiol ond hefyd gyfieithiadau Cymraeg o gerddi gan Rosie Hadden, Penelope Shuttle, Simon Madrell, James McConachie, Jonathan Kinsman, Ruth Sharman, Caleb Nichols, Hildred Crill, Kexin Huang a Michelle Szobody. Nid oes darlleniad personol o gerdd fel cyfieithu. Mae’r fioamrywiaeth yn y cerddi hyn o ddrewbryf i octopws glasgylchol wedi eu darlunio’n syfrdanol ac yn aml yn erchyll yn eu gallu i ymyrryd â’n bywydau – yn annymunol neu’n farwol. Ymhlith y cerddi hyn cawn y cefnforoedd dyfnaf, y corneli tywyllaf amgueddfa hanes natur lle mae rhesymeg a golwg yn ystumio, cawn drychineb, gwenwyn a boddi. Dyma lle rydym yn methu â deall a dirnad natur. Dyma lle rydyn ni’n dal i drïo.

Rwyf wedi dod i weld ein perthynas â byd natur fel un o gyfieithiad parhaus. Mae cyfweliad yr wythnos diwethaf ar gyfer #morethanhuman Modron gyda’r bardd o Estonia, Ilmar Lehtpere, yn trafod y broses o gyfieithu barddoniaeth: y rhwymedigaeth foesol i fod yn ffyddlon i’r gwaith gwreiddiol gan hefyd lywio gwahaniaethau diwylliannol ac ieithyddol. Hyd yma, hyd y gallaf ddarganfod, nid oes enw ar gyfer “blue-ringed octopus”. Gyda chymorth Cymuned Llên Natur Cymru, mae gennym ni un nawr! Mae enwau gwymon yn llithrig; mae angen eu defnyddio’n amlach fel ein bod ni’n eu hadnabod trwy eu henwi. Wrth dreulio amser araf drosodd a throsodd gyda’r cerddi hyn, daw eu tymhorau, eu hanadliadau, eu hagosrwydd yn rhan ohonom. Rwy’n cynnig gwahoddiad i chi yn ystod y dyddiau hyn o aeaf glaw-mân yn swatio o flaen tân, eich bod yn gwneud yr un peth â mi, yn byw yn araf gyda’r cerddi hyn.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau rhifyn 5 o Modron. Bydd rhifyn 6 allan ddiwedd y gwanwyn. Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio our rhestr bostio.  Gallwch nawr ein dilyn ar lwyfannau amrywiol i ddarganfod pryd mae ein ffenestr gyflwyno yn agor:

X

Facebook

Bluesky

Threads

Instagram

Fel arfer, diolch i’n tîm ymroddgar sy’n cynnwys Kristian Evans, Zoë Brigley, Glyn F. Edwards a Taz Rahman.

Siân Melangell Dafydd

Golygydd Cymraeg Modron

Rhagfyr 27th 2024


Featured photograph by Zoë Brigley.


Discover more from Modron Magazine

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Leave a comment