
Addasiad yw’r erthygl hon o sgwrs a roddwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yn Awst 2024. Ychydig cyn i’r erthygl fynd i’r wasg yn Rhagfyr 2024 bu llifogydd difrifol ar draws Cymru, ac ym Mhontypridd yn enwedig. Gellir cyfrannu at gronfa i helpu’r rhai a effeithiwyd trwy ddilyn y ddolen hon.
Erthygl gan Hywel Griffiths
Yn ystod stormydd mawr yn 2018 a 2020 dioddefodd ardaloedd o gymoedd de Cymru, yn enwedig yn Rhondda Cynon Taf, lifogydd difrifol, gyda dŵr yn llifo i dai a busnesau, ac yn difrodi ffyrdd a phontydd, gan adael y trigolion yn pryderu am lifogydd tebyg yn y dyfodol. Ym mis Tachwedd 2024, yn sgil Storm Bert, profodd y trigolion lifogydd unwaith yn rhagor, gan ysgogi trafodaeth ynglŷn â risg, rhybuddion, atgyweirio ac addasu. Ymhellach i lawr dalgylch Afon Taf yng Nghaerdydd, yn ôl adroddiad diweddar gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae rhai o’r ardaloedd â’r risg uchaf o lifogydd gan afonydd a’r môr yng Nghymru. Mae peth o’r risg hwn yn deillio, wrth gwrs, o’r hyn sy’n digwydd yn uwch i fyny’r dalgylch yn y cymoedd.
Mae llifogydd hefyd yn newid y dirwedd afonol trwy gludo gwaddodion – clai, silt, tywod a graean – a lle mae’r rhain yn cael eu gollwng, gan ffurfio bariau, mae capasiti sianel yr afon i ddal dŵr yn lleihau. Weithiau, mae’r gwaddod hwn wedi ei lygru gan olion ein hanes diwydiannol – yng nalgylchoedd Ystwyth, Rheidol a Dyfi, er enghraifft, mae gwaddol yr hen weithfeydd plwm, sinc ac arian ynghlwm wrth waddod sydd wedi cael ei godi a’i symud a’i ollwng a’i godi eilwaith ers anterth y mwyngloddio.
Oherwydd effeithiau tebygol newid hinsawdd – atmosffer cynhesach sydd felly yn gallu dal mwy o anwedd-dŵr, ac sydd, o ganlyniad yn gallu cynhyrchu stormydd glaw trymach, mae llifogydd yn debygol o fod yn fwy, a byddant yn digwydd yn amlach. Sut allwn ni drio paratoi ar gyfer hyn? Un offeryn pwysig yw edrych tua’r gorffennol ac astudio llifogydd hanesyddol er mwyn deall eu nodweddion, a deall hefyd sut wnaeth unigolion a chymdeithasau ymdopi â nhw.
Mae data llif afon rhifyddol ar gael sydd yn ymestyn yn ôl i’r 1960au fel arfer. Golyga hyn mai rhyw 60 mlynedd yn unig o ddata llif afon sydd. Er enghraifft, mae dwy orsaf fonitro ar Afon Rhondda – un yn Nhynewydd, sydd wedi bod yn casglu data ers 2001, ac un yn Nhrehafod, sydd wedi bod yn casglu data ers 1968. Mae gorsaf ar Afon Taf ym Mhontypridd hefyd yn casglu data ers 1968 ac mae’n ymddangos bod llifogydd wedi cynyddu rhywfaint mewn maint ac amlder dros yr hanner canrif ers sefydlu’r ddwy orsaf hyn. Ond, os ydyn ni wir am drio paratoi mor drylwyr a phosibl ar gyfer llifogydd y dyfodol, mae’n rhaid inni fentro ymhellach yn ôl, i gyfnodau pan oedd maint ac amledd llifogydd yn wahanol.
Sut allwn ni ymestyn y cofnod ymhellach i’r gorffennol felly? Gall y dirwedd ei hun gynnig rhai atebion – gallwn dynnu creiddiau gwaddod o orlifdiroedd, ac astudio’r haenau a osodwyd, un ar ben y llall, gan lifogydd y gorffennol, cyfrifo pa mor aml y digwyddon nhw, a pha mor fawr yr oedden nhw hefyd. Weithiau, gallwn ddod o hyd i ysgafellau clogfeini ar lannau afonydd serth yr uwchdiroedd – clogfeini a godwyd gan lifogydd mawr ac a ollyngwyd gyda’i gilydd mewn pentyrrau taclus. Gallwn ddyddio’r pentyrrau hyn drwy ddulliau gwyddonol fel cenfesureg, a thrwy hynny hefyd adeiladu darlun o faint ac amlder llifogydd y gorffennol. Trwy’r dulliau hyn, mae daearyddwyr wedi dangos bod amledd llifogydd wedi bod yn uwch cyn 1960, er enghraifft, a bod llifogydd a ddigwyddodd rhwng yr ail ganrif ar bymtheg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi bod fwy o faint, o gymharu gyda’r llifogydd a brofwyd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Neges hyn yw bod gan y system amgylcheddol y capasiti i gynhyrchu llifogydd mwy o faint, yn amlach, hyd yn oed cyn ychwanegu effeithiau newid hinsawdd.
Gall yr archif ysgrifenedig gynnig cymorth inni hefyd, yn enwedig papurau newydd hanesyddol, dyddiaduron a llythyron personol, cofnodion ystadau, llyfrau log ysgolion, a hyd yn oed cerddi a llenyddiaeth greadigol. Gall y rhain nid yn unig gynnig dyddiad (ac weithiau amser penodol) ar gyfer llifogydd, y systemau tywydd a arweiniodd atynt, a’u heffeithiau ffisegol a chymdeithasol. Gallant hefyd fod yn ffenest i ganfyddiadau a theimladau pobl am lifogydd, a’r ffordd yr oeddent yn ymdopi â nhw (neu beidio) ac maent yn aml yn enghreifftiau o ysgrifennu manwl, dramatig a chyfoethog. Yn hyn o beth, mae gwaith Llyfrgell Genedlaethol Cymru o ddigido papurau newydd hanesyddol a chreu Papurau Newydd Cymru (https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/), system y mae modd chwilio yn hwylus drwyddo am afon neu ardal benodol wedi bod yn amhrisiadwy.
Dyma enghraifft o erthygl ym Maner ac Amserau Cymru ar yr 20fed o Ionawr, 1909, sy’n cofnodi gwybodaeth ffeithiol ynglŷn ag amseru a lleoliad y llifogydd, yn ogystal â natur y glaw a arweiniodd atynt:
‘Am y pedair awr ar hugain diweddaf y mae wedi bod yn gwlawio yn ddidor yn Neheudir Cymru; ac yn ystod yr oll o ddydd Gwener y mae yr oll o’r afonydd sydd yn tarddu yn rhanbarth bryniau sir Forganwg wedi dyfod i lawr yn un llifeiriant. Y mae y llifogydd wedi bod yn neillduol o drwm yn Nyffrynoedd y Rhondda ac Aberdar. Yr oedd yr afon Tâf yn uwch heno nag y mae wedi bod er’s llawer o flynyddoedd; tra yr oedd y Rhondda, yr hon sydd yn llifo drwy y rhanbarth mwnawl poblog sydd yn dwyn yr enw hwnw, yn uwch prydnawn dydd Gwener nag y mae wedi bod er’s chwarter canrif. Gan ei bod yn parhau i wlawio yn drwm ofnir nad ydyw y gwaethaf drosodd.’
Fel y gwelir uchod, mae erthyglau fel hyn hefyd yn aml hefyd yn cymharu’r llifogydd presennol gyda llifogydd y gorffennol, ac yn aml yn sôn am y cof, yn enwedig cof preswylwyr hynaf yr ardal. Mae’n amlwg felly bod trigolion yr ardal yn gyfarwydd â llifogydd. Ym 1874, eto ym Maner ac Amserau Cymru, dywedir:
‘Er fod trigolion y parthau hyn wedi hen gynefino â llifogydd, ac â gweled eu hafon yn gorlifo dros ei glanau, fel canlyniad i wlawogydd trymion, er hyny, prin y mae y rhai hynaf o’r preswylwyr yn cofio y fath genllif o wlaw a’r un a ddigwyddodd ddydd Mawrth; nac, yn sicr, yn cofio gweld y fath ddinystr a galanastra yn cael ei achosi, a’r llifeiriant yn ymgodi mor uchel’
Yn yr un erthygl dangosir bod y cynefindra hwn gyda llifogydd wedi arwain at ddealltwriaeth leyg o natur hydroleg Afon Rhondda a’i llednentydd:
‘Pan y mae gwlawogydd trymion yn disgyn, ymgoda y Rhondda a’r lliaws aberoedd mynyddig sydd yn llifo iddi gyda chyflymdra mawr, a gostyngant drachefn yr un mor gyflym pan y peidia a gwlawio.’
Mae’r adroddiadau papur newydd yn disgrifio’n fanwl ac yn eglur effeithiau’r llifogydd ar drigolion y cwm. Y mae llawer o sôn am farwolaethau trwy foddi, a llawer o sôn hefyd am ddŵr yn llifo i dai. Er enghraifft mewn erthygl yn Y Gwyliedydd (15fed o Dachwedd 1882) nodir:
‘Dydd Mercher, torodd ystorom ddychrynllyd o wynt a gwlaw dros y rhan fwyaf o Gwm Rhondda. Chwyddodd yr afonydd gymaint fel y rhedodd y dwfr i amryw o’r tai yn y cymydogaethau.’
Mae’r llifogydd yn tarfu ar fywydau bob dydd – ar gyfathrebu, digwyddiadau, a threfn arferol y byd:
‘Yn Nyffrynoedd Rhondda, Ogmore a Llyfni, chwyrn-ruthrai y dyfroedd i bob cyfeiriad, gan orlifo y meusydd, y ffyrdd a chledrau y rheilffyrdd, fel nad oedd modd tramwyo ar hyd-ddynt … Yng nghymydogaeth Pentre, Rhondda, dinystrwyd amryw bontydd, a bu agos i un Caleb Lewis gyfarfod â dyfrllyd fedd pan yn ceisio dianc o gyrraedd y llifogydd. Yr oedd priodas i gymeryd lle yn Egwlys Ystrad ddydd Llun, ond pan aeth y pâr ieuanc yno canfyddwyd fod yr adeilad yn nghyda’r fynwent wedi eu gorlenwi â dwfr, ac wrth gwrs oedwyd y gwasanaeth.’ (Y Genedl Gymreig, 1af o Dachwedd, 1877).
Nid dyna’r unig gyfeiriad at fywyd crefyddol y cwm yn cael ei effeithio:
‘Ar Fynydd Blaenrhondda torodd cwmwl, yr hwn a achosodd lifeiriant mawr. Ysgubwyd sylfeini capel Calfaria (B.), yr hyn a fu yn achos i ran o’r adeilad syrthio.’ (Baner ac Amserau Cymru, 6ed o Ionawr 6, 1909)
Y mae’r papurau newydd Saesneg hefyd yn adrodd am lifogydd yng Nghwm Rhondda wrth gwrs. Yn y Rhondda Leader, ym mis Ionawr 1908 cawn enghraifft o hiwmor tywyll wrth drafod effeithiau llifogydd ym Mhendyrys:
‘The recent flood at Tylorstown has left its remains untouched. There are enough tins, saucepans, tin kettles. &c., to open a shop in some of our streets and by-ways.’
Mae awdur yr erthygl yn troi at faterion mwy difrifol wedyn:
‘We hope that no person has been seriously injured by crossing the ‘nant’ between Tylorstown and Pontygwaith, as the trench recently made by the flood is dangerous after dark.’
Yn yr Evening Express, yn Rhagfyr 1910, cawn ddisgrifiad arall o effeithiau ffisegol y llifogydd ac o dorri ar ddulliau cyfathrebu:
‘The Rivers Taff and Rhondda were much disturbed, and at their confluence at Pontypridd presented the appearance of a regular lake. Communication between the Rhondda and Pontypridd was almost cut off scores of telephone services being rendered ineffective.’
Yn aml, disgrifir rhai o’r ffyrdd y mae pobl yn helpu ei gilydd i oroesi ac ymdopi. Ym mhapur Y Llan, yn Ionawr 1909, nodir:
‘Yn Nyffryn Rhondda a Phont y Pridd bu llifogydd mawr. Llifodd y Daf a’r Rhondda dros eu glanau, ac yr oedd troedfeddi o ddwfr mewn llawer o dai yn y cyffiniau. Yr oedd pum’ troedfedd o ddwfr mewn tair heol yn Nhre Hafod, a bu raid cael y trigolion o rai o’r tai drwy’r ffenestr uchaf, gyda chymorth.’
Mae’n amlwg bod trigolion yn paratoi at lifogydd y dyfodol yn sgil profiadau blaenorol:
‘Bu cryn golled tua ardal Hopkinstown a’r Gyfeillon mewn canlyniad i’r Ilif ar y 29ain cynfisol, ac yn naturiol yr oedd cryn bryder yn mynwesau preswylwyr glanau y Rhondda prydnawn dydd Sul, yr 11eg cyf., wrth ganfod yr afon chwyrn hon yn codi mor gyflym. Gwnaed parotoadau gyferbyn a’r gwaethaf gan lawer, ond yn ffodus ni chododd yr afon mor uchel o lawer ag ar y 29ain, ac o ganlyniad ni chafodd neb, ar a wyddom ni, unrhyw golled y tro hwn’. (Y Gwladgarwr, 23ain o Dachwedd, 1877)
Mae’n amlwg hefyd bod angen ymateb yn gyflym ac er mwyn diogelu anifeiliaid oedd mor bwysig i fywydau a bywoliaeth:
‘Mewn rhanau o Aberdar, prydnawn dydd Sul, yr oedd y llifogydd mewn rhai anedd-dai yn droedfedd neu ddwy o uchder. Gwelid yma foch a merched yn cydfyw yn yr un ystafell am Sabboth cyfan; yn wir, mewn un lle, gorfuwyd cario y creaduriaid syber hyn i’r ystafell wely am y dydd, yr hyn, wrth gwrs, oedd yn well na’n gadael at drugaredd y llif’ (Tarian y Gweithiwr, 16eg o Dachwedd, 1877).
Dyna flas o amrywiaeth y wybodaeth a ellid ei dynnu ynghyd o bapurau newydd hanesyddol ar gyfer un ardal. Mae pob cofnod yn ychwanegu dyddiad a lleoliad at set o ddata a all, o’i gwblhau mor drylwyr a phosibl, ac o’i gyfuno gyda gwybodaeth o ffynonellau eraill (data mesurol, gwybodaeth o’r dirwedd) fod hyn hynod werthfawr ar gyfer ein dealltwriaeth o nodweddion llifogydd y gorffennol.
Yng nghanol dinistr Storm Bert, byddai’n deg gofyn pa werth ymarferol sydd i astudio pytiau o wybodaeth dros ganrif oed, pan fo trigolion y cymoedd heddiw yn trio ymdopi gydag effeithiau’r llif diweddaraf, ac yn pryderu am eu teuluoedd a’u tai, a’u heiddo a’u bywoliaeth, pan fydd hi’n dechrau bwrw’n drwm. O gymharu â chynllun manwl er mwyn lleihau’r risg a rhybuddion prydlon, pa werth rhyw hen adroddiadau fel hyn? Ond mae cymunedau yn cadw cof am lifogydd, ac yn trosglwyddo gwybodaeth leol, leyg am natur eu hamgylcheddau afonol o genhedlaeth i genhedlaeth drwy rwydweithiau amrywiol a newidiol, a gall hyn fod yn rhan bwysig o gadw gwytnwch cymunedol yn wyneb llifogydd. Byddai codi ymwybyddiaeth o rai o’r straeon am lifogydd hanesyddol sydd wedi eu cofnodi mewn papurau newydd yn ychwanegu at hyn, ac o bosib yn gyfraniad at drafodaethau am risg llifogydd heddiw ac yn y dyfodol.
Pwynt llenyddol i gloi. Onid yw’r erthyglau papur newydd hyn yn enghreifftiau eithriadol o ysgrifennu natur a’r amgylchedd? Maent wedi eu gwreiddio mewn lleoedd, yn fanwl a chyfoethog, ac yn adrodd straeon am ymwneud pobl go iawn â’r amgylchedd o’u cwmpas, weithiau yn ddifrifddwys, weithiau yn chwareus a phryfoclyd, yn creu darluniau mor fyw a’r rhai yr ydym ni yn eu creu wrth i ni heddiw gofnodi ein straeon amgylcheddol ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Maent yn enghreifftiau o newyddiadura Cymraeg yn ei anterth, ac maent hefyd yn ysbrydoliaeth inni adrodd straeon yr argyfwng hinsawdd presennol yn yr un modd.
Daearyddwr abardd yw Hywel Griffiths. Mae’n ddarllenydd mewn daearyddiaeth ffisegol yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.
Daeth ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Banerog, i restr fer Llyfr y Flwyddyn ac enillodd Llif Coch Awst wobr y Categori Barddoniaeth. Cyrhaeddodd ei gyfrol ddiweddaraf, Y Traeth o Dan y Stryd, y rhestr fer hefyd. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008 a’r Gadair yn 2015.
Hywel Griffiths is a geographer and poet. He is a reader in physical geography at Aberystwyth University’s Department of Geography and Earth Sciences.
His first volume of poetry, Banerog was shortlisted for the Book of the Year and Llif Coch August won the Poetry Category award. His most recent volume, Y Traeth o Dan y Stryd was also shortlisted. He won the National Eisteddfod Crown in 2008 and the Chair in 2015.
Discover more from Modron Magazine
Subscribe to get the latest posts sent to your email.
One thought on “Llifogydd yr Archif: afonydd ardal Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 gan Hywel Griffiths”