BLOG GWADD Gan Iestyn Tyne

Dyma lansiad cyffrous o fideo gan Iestyn Tyne.

Iestyn Tyne: Am Y Darn

Dyma ddarn gyfansoddwyd mewn byr amser (drafft ydi o’n dal i fod, a dweud y gwir!) ar ein preswyliad yn Kovalam ar arfordir Kerala, lle cawson ni dreulio rhywfaint o amser yng nghwmni pysgotwyr lleol. Roeddem wedi gobeithio clywed ganddyn nhw rhai o’r siantiau a genir ganddyn nhw wrth lusgo’r rhwydi llawn i’r lan; ond ar y boreau y buom ni hefo nhw, roedd y rhwydi’n codi’n wag ac felly doedd dim i ganu yn ei gylch. Draw ar y gorwel roedd llongau pysgota enfawr yn patrolio, a rownd y penrhyn, peiriannau anghenfilaidd wrthi’n cloddio ar gyfer siwpyrborthladd fydd yn derbyn dros hanner holl fewnforion India. A dyma feddwl am y bygythiadau sy’n wynebu’r math yma o fywoliaeth ledled y byd, ac yn nes adra o lawer nac arfordir De India hefyd…

Manylion y fideo:

Ffilmwyd yn Kovalam, Kerala, Chwefror 2024

Ffilmio a chynhyrchu gan Montenegro Fisher

Prosiect Llenyddiaeth ar draws Ffiniau gyda chefnogaeth Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Sefydliad D C Kizhakemuri a’r Mathrubhumi International Festival of Letters.


Magwyd Iestyn Tyne yn Llŷn ond mae bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon. Mae’n llenor, yn gerddor, yn gyfieithydd ac yn artist. Mae’n gyd-sylfaenydd a chyd-olygydd cylchgrawn a chyhoeddiadau’r Stamp, tŷ cyhoeddi Cymraeg annibynnol, gwirfoddol a chydweithredol. Ei bamffled diweddaraf o gerddi yw Dysgu Nofio, dewis ar gyfer Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru 2023-24.


Discover more from Modron Magazine

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Leave a comment