
Ym mis Ebrill, 2024, gwelwn ail gasgliad clare e. potter yn dod o’r wasg. Mae Healing the Pack yn cyrraedd ein silffoedd 18 y flynyddoedd ers ei chasgliad cyntaf, hynod boblogaidd, spilling histories (Cinnamon Press, 2006). Erbyn hyn, mae hi’n magu lle a llais fel bard yn yr iaith Gymraeg hefyd. Ym mis Hydref 2023, bu hi’n Fardd y Mis ar Radio Cymru.
‘Iaith, a’r ffordd rydym ni’n defnyddio iaith sy’n bwysig,’ meddai clare wrth agor y sgwrs. Gyda’r ysbryd hynny mewn golwg, dyma frethyn rhythmig, naturiol ein sgwrs, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
*
Siân Melangell Dafydd: Fyddet ti’n rhannu ychydig o wybodaeth am dy gasgliad newydd, sydd ar ei ffordd o’r wasg? Ai Cymraeg ydi hwnnw?
clare e. potter: Na, Saesneg. Mae wedi cymryd 17 mlynedd [i’w ysgrifennu! 18 erbyn iddo weld golau dydd]. Mae stori i’w gael yna. Ond wrth gwrs, rydw i’n fardd gwell rŵan. Mae fy ngwaith i wedi cael amser i aeddfedu and in turn wedi helpu i siapio fi: proses symbiotig.
Siân: Beth yw nodweddion y casgliad newydd yma, fydde ti’n dweud? Be’ ’di olion yr aeddfedu yma?
clare: Y rheswm y dechreuais i ysgrifennu’r llyfr yma oedd er mwyn trio iachau fy hun, hefyd i sorto mas beth dwi’n meddwl am bethau. I helpu fi ddeall y byd ond hefyd i ddangos gobaith a gratitude am natur sy’n endlessly beautiful. Roedd lot o bethau wedi digwydd yn y blynyddoedd yna. Hefyd, yn fy llinell deulu, roedd ’na lot o salwch a phobl yn marw’n gynnar achos o hardship. Fi’n dod o working class mining community ar ddwy ochr felly roedd bywyd yn anodd. Roedd storïau i’w cael am lot o nerth hefyd: resilience and humour. Ac roedd fy nheulu ar y ddwy ochr yn rich mewn ffyrdd eraill. Canu, dweud storïau, bod yn funny mewn teulu tynn. Felly, roedd y pethau anodd a phethau oedd yn gallu gwellhau. Mi ges i blant yn y blynyddoedd yna – mae’r un cyntaf yn 17, felly mae’r casgliad yma hefyd am fod yn fam, am sut rwyt ti’n delio hefo problemauti dy hun a phan dwyt ti ddim isio i’r un patrymau i ddigwydd i dy blant. Pethau fel’na. A hefyd y ffaith fod natur, ers oeddwn i’n fach, wedi rhoi – beth yw veins yn Gymraeg – gwythiennau – maen nhw’n wyrdd gen i. Ers oeddwn i’n fach. Maen nhw’n wyrdd. Mae natur reit yng nghanol fy ngwaith i.
Siân: Tydi clywed ti’n dweud hynna ddim yn fy synnu. Mae’n ymddangos i mi mai natur ydi dy ateb di i unrhyw loes, unrhyw benbleth. Rwyt ti’n gweld datrysiad, ateb neu ffordd newydd o weld y byd drwy fynd ymysg y coed, fel petai.
clare: Ie, yn gymwys. Hefyd mae’n helpu fi ofyn cwestiynau. Er enghraifft, yn un o’r poems, rydw i’n son am fynd allan hefo fy merch i bigo mwyar duon yng nhganol storm Frances ac roedd hi wedi gofyn cwestiwn:
‘How does the nest stay there, Mam and why don’t the birds fall out?’
Mae’n swnio fel cwestiwn syml ond’yfe? Ond, roedd y gwynt yn chwythu, roedd ein gwallt ni’n chwythu, ac roedd ganddo’ ni hanner bowlen o fwyar duon. A dyna hi’n gofyn y cwestiwn yna. Mae o’n gwestiwn mawr. Achos yn y tŷ yn ystod lockdown, ro’n i’n teimlo we’re all gonna fall out. Felly sut oeddwn i, fel mam, yn mynd i gadw’r nyth yn saff tra’r oedd y byd yn chwythu storm fel’na?
Nawr, be dwi wedi dechrau gwneud yw mynd i’r goedwig fach tu ôl i’r tŷ a bod yn fwy – beth yw’r gair am conscious – ymwybodol – am be dwi moyn meddwl amdano neu angen cael gwared ohonno. Mae’r goedwig yn rhoi rhoddion i mi a gofod i true thinking, i feddwl yn onest.
Pythefnos yn ôl, es i mewn i’r goedwig ac roeddwn i’n rili isel. Wel, roeddwn i’n anxious, ro’n i moyn crio. Nawr fod llyfr newydd yn dod allan, dwi’n teimlo’n fwy vulnerable eto. Ro’n i’n eistedd ar bwys yr onnen – fy ffrind i – ac mi weles i yn y nant yno, massive boulder. Yn Daoism, maen nhw’n dweud bo dŵr ddim yn symud rhwystr. Ma fe’n symud rowndo fe. Yn raddol, mae o’n rhyddhau’r rhwystr, ac mae’n symud. A’r diwrnod hwnnw, roedd y dŵr yn symud mor wyllt, ac yn symud dros y boulder, a meddyliais i – wow – weithiau da ni ddim angen llifo o’i gwmpas e. Da ni angen defnyddio fe fel catapwlt. Ok! Dwi’n teimlo fel hyn achos y llyfr, ac mae’n bwysig bo fi’n teimlo fel hyn. Dwi’n cael fy atgoffa sut beth ydi teimlo’n vulnerable gyda fy ngwaith ac mae hyn yn bwysig achos, we should never get ahead of ourselves. Mae o’n beth mor fawr, mor bwysig, i sgwennu a’i anfon o allan i’r byd; o’n i angen atgoffa fy hun o hynny.


Siân: Bron bob tro rydym ni’n dwy wedi trafod barddoniaeth, rydym hefyd wedi trafod rôl athroniaeth Daoist. Fedri di ddweud mwy am hyn?
clare: Dwi ddim yn meddwl amdana i’n hun fel enviromental poet neu rywun sy’n taclo pethau mawr fel y shit yn yr afonydd neu’r plastig yn y moroedd. Dim byd fel’na. Ond beth dwi ’di sylweddoli ydi, dwi’n tynnu sylw at yr egni a’r ysbryd. Y llais a’r iaith sydd ym myd natur, yn y goedwig, yn y mynydd, yn awyr y nos. Dwi’n trio dysgu Cymraeg, siarad Cymraeg, trio dysgu iaith reddfol natur. Mae’r ddau yn intertwined i fi. Y mwya’ dwi’n mynd i medidatio ar bwys yr afon neu wrth yr onnen, dwi’n ffeindio’r iaith yna.
Es i ar gwrs shamanaidd ar y penwythnos a maen nhw’n gallu newid consciousness. Roedd rôl y shaman yn y pentre yn golygu mynd allan o’r stâd da ni ynddo fo, er mwyn teithio i weld sut mae stâd yr anifeiliaid, i mewn i lle mae’r tywydd, beth sy’n digwydd, beth sy’n mynd i ddigwydd, y pethau yma. Mae rhai pobl yn galw hynna’n hud, ond dwi ddim yn teimlo hynny. Y mwya dwi ar bwys y nant neu yn y goedwig, dwi’n teimlo pethau. Dwi’n certain, dwi’n sicr, mae byd natur yn siarad. Dwi ddim yn mynd ar pickets, dwi ddim yn lobïo politicians. Dwi ddim yn gwybod lot am wyddoniaeth am beth sydd yn yr afnoydd, beth sy’n wael, beth sy’n dda. Be dwi’n ei wneud yw cysylltu. Trio tapio mewn i’r vibration arall a dod nôl a sgwennu amdano fe. A cynrychioli fe – na, dwi ddim isio meddwl amdana fi’n hun fel llais byd natur. Ond o viewpoint fi,dwi eisiau barddoni am beth dwi’n ei glywed.
Dwi wedi mynd a phobl i’r goedwig [i ysgrifennu] a dwi wedi gweld nhw’n cysylltu’n ddwfn. Yn dweud rhywbeth rili dwys. Fel bo nhw wedi cael mini enlightenment. Dwi wedi gweld merch fach yn gwneud siapiau fel y coed. Roedd hi’n symud fel y gwynt. Pan oeddwn i’n darllen cerdd, roedd ei dwylo hi lawr yn y mole hole. Roedd hi’n dilyn ei greddf. Ac i mi, roedd bod yn dyst i hynny yn rhoi ymwybyddiaeth newydd i mi hefyd. That’s it for me. That’s what I want to devote time to.
Siân: Dwi ddim isio gorfodi safbwynt gwleidyddol ar beth wyt ti’n ei wneud ond wyt ti’n teimlo, y mwya mae rhywun yn cysylltu, y mwya mae nhw’n teimlo’r empathi ddwfn yna, y mwya tebyg maen nhw i actio hefo mwy o bwrpas i warchod byd natur hefyd? Dwi ddim isio gorfodi perthnasedd y pwnc argyfwng hinsawdd arnat ti fel bardd, ond eto dwi’n awyddus i ofyn os ydi’r cysylltiad yna yn rywbeth wyt ti’n meddwl amdano hefyd?
clare: Dwi mewn shutdown pan dwi’n gwylio’r newyddion. Pan oeddwn i’n fach, roeddwn i’n dwlu ar raglenni David Attenborough, ond rŵan dwi’n gwybod ei fod o hefyd yn mynd i ddweud ‘and this animal will soon become extinct’ neu rywbeth distressing ambyti habitat yr anifeiliaid. I can’t. I just can’t do it. So, dwi eisiau canolbwyntio ar ddyfnhau fy nghysylltiad a pherthynas efo natur a rhannu’r joy o wneud. Wrth gwrs dwi’n trio bod yn fwy responsible hefyd fel tacluso yn y goedwig, ar bwys yr afon, pigo sbwriel, newid be dwi’n prynu a bwyta, addysgu fy mhlant am fod yn yn fwy ymwybodol. Ond dwi ddim yn politically clever am yr am pethau yma a does gena i ddim atebion ar gyfer brwydro yn erbyn argyfwng hinsawdd. Dwi’n teimlo’n hopeless, lot. Roeddwn i wir wedi mynd i shutdown. A dwi’n gwybod bod y mwyafrif o bobl fel fi, yn teimlo fel’na. Felly pan maen nhw’n dod ar weithdy genna i, dwi’n cynnig syniad fel hyn: ‘dyma ddarn o sea glass, be ti’n feddwl o hynna? Beth mae’r môr ’di gwneud da hwn? Rhywbeth sydd wedi torri. Drycha beth mae’r môr wedi gwneud. Felly, beth allwn ni ddysgu gan hynny?’ Dwi’n meddwl mai byd natur yw the mother of all teachers, i ni. Os ni moyn atebion – dyna beth sydd raid i ni wneud. Mynd at y pethau bychain, tangible. Ti’n gallu dal hwn yn dy law. Falle bod y darn bach o sea glass wedi dod o Malaysia, Barry Island, o Indonesia, Awstralia, o pirate ship from 400 years ago. Da ni ddim yn gwybod.
Hefyd, wythnos dwetha, es i hefo criw bach o fenywod i ddilyn gwaith Emma Mitchell. Mae ei gwaith hi’n hyfryd. Mae hi’n gosod cnau, dail, bent sticks hefo’i gilydd, a’r ffordd mae hi’n gosod pethau o fyd natur i lawr, mae o fel dopamine. Ac felly dyma ni’n gwneud hynny hefo’n gilydd. Mae’n sacred. Roedden ni gyd wedi newid. Ro’n i’n gwylio pobl yn rhoi pethau i lawr – hefo gofal – pethau fydden ni fel arfer yn cicio allan o’r ffordd. Roedd o’n rhywbeth, rili rhywbeth.
Sgwenon ni i gerddi am y peth hefyd. Dyna dwi’n gwneud. That’s my talent. That’s my focus. That’s my ministry. Sori, dwi ddim yn medru dweud hynna yn Gymraeg.
[Nodyn gan Siân: Cerdd o’r gweithdy uchod gan clare wedi ei ysbrydoli gan waith celf Emma Mitchell yw’r gerdd isod]
Dog interrupts mandala making
on the stone altar, under the wishing
arch, dripping from stalactitic structures.
We are gathering here, ourselves,
leaves gifted from beech, larch
fern and unknown plants. A wet paw print.
We’ve made space between moss
and twig, and ourselves, here
a constellation of people
writing to feel better.
The starling and crow interject
even a magpie, the gardeners getting
their morning coffee, but the mandala
holds itself and our intentions to wish
things into gone and being, to place
troubles down, see them from a new perspective;
look how the fern frond trembles,
the pink flower is like a trumpet for our
hopes, and the dog’s inquisitive
wet print is evaporating.
Mae’n edrych fel rhywbeth hawdd ond dyw i ddim. Mae cysylltu yn y ffordd yna fel cael cymun hefo byd natur, a chymuned hefo byd natur. Dwi moyn rhannu un way in, un ffordd o deimlo gobaith i helpu bobl sylweddoli ‘My nature, this is!’ Dyna dwi isio iddyn nhw deimlo. Un o’r menywod, falle, tro nesa fydd hi’n gweld coeden yn marw, bydd hi’n edrych am fadarch, ffyngau. Arafu. Rhoi sylw. Dyna yw peth fi.
Da ni hefyd yn edrych ar y gofod rhwng pethau fel Emma Mitchell. Mae rhywbeth yn mynd ymlaen fel y Japanese concept o Ma, y gofod gwag sy’n llawn posibilrwydd. Dwi’n hwyluso’r gweithdy ond hefyd yn cymryd rhan, ac yn gwylio. Pan oedden ni yn y parc yn gwneud hyn, mi ddwedes i, ‘Ylwch arno’ ni! Da ni wedi rhoi ein hunain mewn constellation hefyd!’ Fel arfer da ni’n eistedd rownd bwrdd hefo paneidiau, ond roedden ni allan, ym myd natur. So, ro’n i’n gofyn cwestiynau fel, ‘Be sy’n digwydd rhyngom ni ar hyn o bryd?’ Roedd un o’r participants wedi sylweddoli, ‘Ni, nawr fel y mycelium network sydd oddi tanom ni. Ni nawr wedi cysylltu mewn ffordd gwahanol, jest achos da ni mewn parc.’
Siân: Dwi’n mynd i bontio rŵan os ga i, i’r gwaith cymunedol gwahanol rwyt ti wedi ei wneud yn ddiweddar fel rhan o Brosiect 40°C, Theatr Genedlaethol Cymru yn rhoi cyfnod preswyl i ti a phedwar arall, yng Nghanolfan Technoleg Amgen ger Machynlleth. Mae’n ganolfan sy’n gosod ei hun ar y ffin rhwng gwaith yn y gymuned a chydnabod fod y gwaith cymunedol hynny yn waith gwleidyddol. A mae dy waith di mor ddwfn yn y personol a’r cymunedol. Sut oeddet ti’n ffeindio’r broses o fod yno a beth fuest ti’n gwneud yno?
clare: Mi weles i’r call-out. A dwi ddim yn y byd theatr, yn un peth. A does gen i ddim byd insightful i’w ddweud am yr argyfwng hinsawdd. Ac mae’r cwmni theatr yna yn un iaith Gymraeg. Felly dyna oedd y tri rheswm i mi beidio mynd. Ac yna roeddwn i’n meddwl, dyna pam dylwn i fynd. A dyna beth rois i yn y cais. A’i sgwennu o mewn cymysgedd o Saesneg a Chymraeg. Achos dyna lle’r ydw i. I wanted to be who I am. Ac roeddwn i’n lwcus i gael spot hefo bobl mor amazing.
Beth oeddwn i’n hoffi: ‘gwreiddioli’ oedd enw’r preswyliad yma. Mi gawsom ni sesiwn hefo Eddie Ladd, hefo Marva Jackson Lord a Becca Voelcker a rhai eraill. Roedd fy meddwl i rili wedi agor, hefyd achos roedden ni o fewn CAT. Lle mor bwysig – yn dangos i ni sut allem ni fyw ar draws y byd hefo mwy o ofal. Beth sydd wedi aros gyda fi, oedd Marva Jackson Lord: menyw, artist, DJ yn byw ger y Gelli. Mae hi’n dod o Jamaica yn wreiddiol a wedi byw yng Nghanada. Gawsom ni sgyrsiau pwysig am hanes Cymru, yn enwedig yr cysylltiad rhwng Cymru a’r slave trade. Roedd gwlan Cymru yn cael ei ddefnyddio i wneud ‘Welsh plains’ oedd yn ddefnydd plaen i wneud dillad i’r slaves. Mae hi mor gentle, ddim yn gwneud i ti deimlo dy fod yn wrong, neu’n ddrwg am dy accountability di, just dangos bod yna waith i’w wneud.
Roedd hi wedi dysgu ni gymaint am fywyd rural ac am fod yn connected efo natur, tyfu, dilyn rhythmau’r byd o gwmpas ni. Dysgom ni am rywbeth sy’n agos at fy nghalon i: y ffordd mae tyfu llysiau wrth gwrs yn creu pridd cyfoethog, yn llythrennol. Ond hefyd yn creu pridd cyfoethog neu context cyfoethog i ni ddod at ein gilydd fel cymuned, rhannu sgiliau a gwybodaeth a chael the most out of be da ni’n trio’i wneud. Jest y ffordd roedd hi’n siarad am rannu, am gymuned, am ddysgu gan ein gilydd. Just beautiful. Dyna be dwi moyn gwneud. Gwaith fel’na. Dwi moyn i bobl deimlo fel oeddwn i’n teimlo wrth wrando arni hi. I didn’t feel in panic. I felt that big and important things needed to be done. Ond mae’n ok. Da ni’n mynd i fod yn ok. Da ni’n mynd i wneud e. Mae ‘na lot o bobl yn deffro nawr mewn ffyrdd gwahanol. And I can only be a small part of that, in my small way. Rhaid i mi ddal ati, a dal ati.
*
[Nodyn gan Siân: Wrth gloi, ychwanegodd clare rywbeth rydw i’n teimlo sy’n bwysig sôn amdano yma.]
clare: Mae symud o un iaith i’r llall fel newid cymeriad, fel shape-shifting. Beth wnes i sylweddoli wrth fod yn fardd y mis ar Radio Cymru, oedd bo fi’n rili hoffi sgwennu am natur yn Gymraeg. It’s a little removed from my internal narrative and it gives me access gwahanol o feddwl a cysylltu.
*
Siân: Gobeithiwn, felly, wrth i’r shape-shifting barhau ac wrth i lais reddfol natur ganfod ei hun yn ei geiriau, y daw casgliad hefyd yn Gymraeg cyn hir.
clare e. potter is a poet and radio presenter who studied an MA in Mississippi and taught in New Orleans. As an arts practitioner she facilitates creative projects with community groups and is driven by the belief that poetry can be a force for personal and social change. She was awarded a CREATE grant to develop poetry therapy practice. Her second collection Healing the Pack will be published in April 2024.
Mae clare e. potter yn fardd a chyflwynydd radio a astudiodd MA yn Mississippi a gweithio fel athrawes yn New Orleans. Fel ymarferydd celfyddydol, mae’n hwyluso prosiectau creadigol gyda grwpiau cymunedol ac yn cael ei hysgogi gan y gred y gall barddoniaeth fod yn rym ar gyfer newid personol a chymdeithasol. Derbyniodd grant CREATE er mwyn datblygu ymarfer therapi barddoniaeth. Bydd ei hail gasgliad Healing the Pack yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2024.