
Mae’r egni yn aros
Llifa’r Ogwen yn un wythïen i lawr o lyn Ogwen tua pentref Bethesda. Ei dyfroedd yn torri’r tir dan draed twristiaid dillad gortex a sgidia hoelion amaethwyr. Llifa o olwg y parcio afreolus a’r llinell hir o ymwelwyr yn esgyn tua’r copaon. Llifa yng ngrym disgynnol Rhaeadr Ogwen a’i rhuo yn curo ar ddrws yr aelwyd ym Mlaen y Nant cyn adleisio i lawr y dyffryn rhewlifol i grud Nant Ffrancon. Yma, mae’n arafu, yn cosi boliau eogiaid a chyd-ganu â chenedlaethau o blant fu’n nofio ym Mhont Wen. Byrlyma yn ei blaen eto heibio ffermwyr Maes Caradog, Ceunant, Dôl Awel ac at gysgod y tomeni llechi a phyllau tyfnion ble mae’r genweirwyr yn castio a’r dyfrgwn yn cuddio dan y dorlannau. Cyrhaeddwn odrau coed derw Pen Braich ble mae’r llif yn dal tywyllwch y mawn i lawr tua Pont Ogwen. Ac yno, yng ngolwg maes carafannau statig i ymwelwyr a sŵn sgwrsio trigolion lleol yn mynd a’u cŵn am dro, mae’n cored ni. Cored – argae fechan cymdeithas budd cymunedol ‘Ynni Ogwen’.
Yn ei hanfod, cynllun cynhyrchu trydan ydy Ynni Ogwen – proses o dynnu dŵr o’r afon, ei redeg trwy beipen a thyrbein, allforio’r trydan i’r grid a gadael i’r dŵr lifo yn ôl i’r afon. Benthycwn y dŵr a defnyddiwn y ei rym i gynhyrchu a gwerthu trydan glân adnewyddadwy. Mae na fuddion amgylcheddol amlwg i gynhyrchiant 500MW o ynni gwyrdd y flwyddyn ond yr hyn sy’n gwneud cynllun Ynni Ogwen yn nodedig ydy mai cynllun dan berchnogaeth y gymuned ydy hwn. Cynllun wedi ei sefydlu gan y gymuned ac er budd y gymuned. Ariannwyd y costau adeiladu trwy gynllun cyfranddaliadau cymunedol ac mewn cwta ddeufis, codwyd bron i hanner miliwn gan dros 300 o unigolion. Mae grym a gwerth economaidd sylweddol i’r ymdrech yn amlwg – telir llog i fuddsoddwyr yn flynyddol gyda’r llog hwnnw’n cylchdroi yn ein economi leol. Yn ogystal, cronnir elw cymunedol sy’n cael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol eraill yn y Dyffryn. Mae ystod y buddsoddiadau budd cymunedol yn amrywiol. Yn ddiweddar, ariannwyd bws trydan cymunedol at ddefnydd ysgolion a bob blwyddyn rydym yn rhaeadru tua £15,000 o elw cymunedol trwy Elusen Ogwen – elusen sy’n ailfuddsoddi ein elw mewn prosiectau cymunedol. Mae gwaith y gymdeithas hefyd yn cefnogi gwaith y fenter gymdeithasol fu’n gyfrifol am sefydlu’r prosiect ynni yn wreiddiol, sef Partneriaeth Ogwen – menter gymdeithasol sy’n datblygu prosiectau adfywio amgylcheddol a chymdeithasol sylweddol yn y dyffryn. Dechreuais i ar y siwrne ynni cymunedol yn fy rôl fel datblygwr prosiectau efo Partneriaeth Ogwen a mae’r berthynas rhwng y chwaer gwmnïau yn parhau wrth i Ynni Ogwen ganolbwyntio ar gynhyrchiant ynni a Phartneriaeth Ogwen ganolbwyntio ar faterion cludiant cynaliadwy, hyrwyddo effeithlonrwydd ynni a gweithredu amgylcheddol ar lawr gwlad.
Mewn sawl ffordd, mae’r model ynni cymunedol yn swnio’n ddelfrydol a dwi’n meddwi ar flaengaredd y sector sy’n cadw budd mewn cymunedau. Cymunedau sy’n aml yn cael eu hesgeuluso. Ond wrth gwrs, doedd y daith ddim yn rhwydd ac fel rhywun fu’n rhan o’r prosiect hwn o’r crud, dwi’n gallu tystio i’r fiwrocratiaeth a’r grymoedd sy’n atal cymunedau rhag cymryd perchnogaeth o’u adnoddau naturiol. Y broses drwyddedu, y prydlesi tir, yr holl geisiadau grant i ariannu astudiaethau effaith cynefin a chostau ymgynghorwyr. Heb sôn am drio sefydlu cynllun busnes mewn byd ynni ansefydlog ble mae pris trydan yn gwbl afreolaidd. Yn achos Ynni Ogwen, buom yn lwcus i adeiladu ein cynllun mewn cyfnod ble’r oedd Llywodraeth San Steffan yn talu cymhorthdal FITs (Feed in Tariff) am bob uned o drydan yr oedden ni’n gynhyrchu. Y FIT o ‘’chydig dros 8 ceiniog yr uned oedd prif ffynhonnell incwm ein cynllun busnes ynghyd ag incwm yr allforio. Nid yw’r cynllun FIT yn bodoli bellach sy’n golygu fod sefydlu cynlluniau ynni cymunedol bellach yn fwy heriol. Nid oes sefydlogrwydd ym mhris ynni’r farchnad ac anodd yw rhagweld newid yn y sefyllfa yma. Golyga hyn fod cwmnïau ynni cymunedol newydd yn gynyddol chwilio am ddefnydd ynni lleol o’u pŵer. Hynny yw, cynhyrchu i ddefnyddio’n lleol, nid allforio i’r grid yn unig. Ac yn y bôn, dyna ddylai ddigwydd. Pe bai modd i ni wneud hynny, byddai Ynni Ogwen yn defnyddio’n pŵer hydro i gyflenwi trydan yn fforddiadwy i gartrefi lleol ond mae hynny bron a bod yn amhosib dan gyfundrefnau hynafol y drefn ynni. Cyflenwi’n lleol yw’r greal sanctaidd a dyna i raddau mae Ynni Ogwen yn trio ei wneud gyda chynllun Heuldro – cynllun i osod paneli solar ar doeau adeiladau cymunedol yn y Dyffryn. Hyd yn hyn, rydym wedi gosod paneli ar 7 adeilad lleol gyda’r buddsoddiad yn helpu’r amgylchedd ond hefyd yn helpu’r adeiladau hyn i fod yn fwy cynaliadwy’n economaidd. Eleni, gosodwyd 39kW o baneli ar adeilad Canolfan Cefnfaes. Yn yr adeilad yma mae Partneriaeth Ogwen yn cynnal gofodau cymunedol, unedau busnes a chydweithfa ac yma hefyd mae’r Bartneriaeth yn gwefru eu fflyd o gerbydau trydan cymunedol. Bydd y gosodiad paneli a buddsoddiad mewn batri 69kWh yn mynd gam sylweddol o’r ffordd tuag at greu adeilad hunangynhaliol o ran ynni. A dyna yn y bôn yw ein gweledigaeth. Galluogi ein cymuned i gynhyrchu a defnyddio ynni o fewn ein cymunedau, gan wneud hynny ar delerau teg a fforddiadwy.
Dydy Ynni Ogwen ddim yn unigryw. Yn y cyfnod datblygu, roeddwn i’n troi tuag at gyfeillion yn Nyffryn Peris ac Abergwyngregyn yn gyson a ‘’nhwythau yn troi atom ninnau am gymorth. Ynni Padarn Peris ac Ynni Anafon fu fy nghynhaliaeth i yn y cyfnod cynnar a mae’r cydweithio yna’n parhau yn allweddol. Dyna pam y bum i’n rhan o sefydlu Cyd Ynni a pham dwi’n fwy na pharod i roi fy amser yn wirfoddol i drafod ein profiadau efo darpar grwpiau newydd. Dwi bellach yn gyfarwyddwr efo Ynni Cymunedol Cymru ac yn teimlo’n rhan o deulu ehangach o fudiadau a phobl sy’n gweithredu’n angerddol dros eu cymunedau.
Tu hwnt i’r cynhyrchu ynni, yr hyn sy’n uno’r gwirfoddolwyr yn y sector yma ydy’r gwerth addysgiadol a chymunedol aruthrol sydd wedi dod o’n cynlluniau. Bu datblygu Ynni Ogwen yn gatalydd i gymaint mwy yn Nyffryn Ogwen ac yn sicr mae wedi codi dealltwriaeth ein cymuned o faterion amgylcheddol a newid hinsawdd. Mae’n Cadeirydd yn gyson dywys grwpiau ac ysgolion at yr hydro ac yn ladmerydd dros STEM ymysg pobl ifanc. Ers sefydlu Ynni Ogwen, mae Partneriaeth Ogwen wedi symud ymlaen i ddatblygu nifer o gynlluniau amgylcheddol ehangach yn cynnwys sefydlu rhandiroedd a gofodau gwyrdd cymunedol, datblygu cynlluniau atal tlodi tanwydd, sefydlu cynlluniau rhannu, trwsio ac uwchgylchu, cynlluniau beics a chludiant cymunedol trydan yn ogystal â buddsoddi i wella effeithlonrwydd ynni eu adeiladau. Mae cynaladwyedd yn treiddio i holl waith Partneriaeth Ogwen a mae’r cydweithio agos rhwng Ynni Ogwen a’r Bartneriaeth yn cyfrannu tuag at weledigaeth ehangach i greu Dyffryn Ogwen gynaliadwy tuag at y dyfodol.
Uwchlaw oriau kW a gweithredu amgylcheddol, mae cynllun Ynni Ogwen hefyd wedi codi hyder. Yn draddodiadol, mae cynlluniau ynni wedi digwydd i gymunedau a hynny gan amlaf, gan fusnesau masnachol fu’n prynu ein teyrngarwch â photiau nawdd cymunedol. Enghraifft sy’n amlygu hyn yw’r ffaith fod cronfa gymunedol blynyddol cwmni ynni anferth fel Engie sy’n rhedeg First Hydro yn Llanberis a Thanygrisiau wedi bod bron yn gyfwerth a chyfraniad elusennol Ynni Padarn Peris i’r ardal dros y blynyddoedd diwethaf. Yn eironig, lleolir pwerdy hydro arall Engie ym mhentref Tanygrisiau ble mae’r lefelau uchaf o dlodi tanwydd yng Nghymru. Dyma’r math o anghyfiawnder y mae grwpiau ynni cymunedol ac Ynni Cymunedol Cymru yn ceisio ei wyrdroi o’r gwaelod i fyny a thrwy ddylanwadu ar bolisi.
O ran hynny, mae angen cyfarch a chydweithio agosach gyda’r busnesau cynhyrchu ynni mwy yng Nghymru. Dydy Ynni Ogwen ddim yn mynd i newid y byd a mae angen mwy na hydros 100kW i chwyldroi’r sector ynni yng Nghymru. Mae cynlluniau ynni llanw arfaethedig Morlais a chynlluniau tebyg yn dangos yr uchelgais sydd ei angen. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Ynni Cymru i feithrin prosiectau a mae na ymwybyddiaeth uwch o bwysigrwydd perchnogi asedau, gan gynnwys galwadau am ddatgloi asedau arfordirol ystâd y goron fel sydd wedi digwydd yn yr Alban. Mae mwy a mwy o alw hefyd am fentrau cyd-berchnogaeth, ble mae cymunedau’n cyd-berchnogi gosodiadau ynni mawr gyda mentrau cyhoeddus neu breifat. Hynny yw, dim perthynas hierarchaidd o dderbyn diferion trwy gronfa budd cymunedol yn unig ond cyd-berchnogi asedau gan sicrhau perchnogaeth, rheolaeth, dealltwriaeth a budd teilwng i gymunedau trwy gydol oes y prosiect. Cyd-berchnogaeth a phontio’n gyfiawn yw prif drywyddau polisi Ynni Cymunedol Cymru a dwi’n falch o weld cymunedau’n cael sedd deilwng wrth y bwrdd wrth i’r agenda bwysig yma ddatblygu tua’r dyfodol.
Fel cymunedau, mae gennym y gallu i gymryd yr awenau. Mae’r adnoddau naturiol yma a mae ‘na awydd cynyddol i ddod a phopeth yn nes adra – cymunedoli a lleoleiddio a chylchdroi arian o fewn ein cymunedau. Yn wyneb newid hinsawdd, mae’r awydd hwnnw hyd yn oed cryfach a mae’r gwirfoddolwyr sy’n ymwneud â’n sector yn cenhadu dros gymuned ac amgylchedd ar yr un gwynt. Ac yma yn Nyffryn Ogwen, dwi’n freintiedig i fod yn rhan o fudiad a theimlad cyffredinol sy’n tyfu. Mae cynaladwyedd amgylcheddol yn treiddio i bob prosiect cymunedol dwi’n ei ddatblygu a mae fy ngwaith amgylcheddol hefyd yn elwa o greadigrwydd ac ymlyniad cadarn at iaith a diwylliant yr ardal lle dwi’n byw a gweithio ynddi. Bellach, dwi’n teimlo mod i eisiau ‘sgwennu mwy am hynny a thalu teyrnged i brosiectau fel Ynni Ogwen sydd efo’r grym i uno cymaint o bobol mewn byd o raniadau. Mae grŵp ysgrifennu newydd wedi ei sefydlu ym Methesda yn ddiweddar gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru a’n gobaith ni yw i’r beirdd a llenorion lleol yma hefyd ganfod ysbrydoliaeth yn eu hamgylchfyd a’u cynefin. I mi, mae fy mherthynas â natur a chysgod newid hinsawdd yn dod yn fwyfwy amlwg yn fy ngwaith llenyddol a mae hynny yn deillio o fy ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy cymunedol a’m cred mewn creu gwell dyfodol i fy mhlant a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r afon Ogwen yn parhau i lifo yma ac yn parhau i roi i’w chymuned ac i minnau sy’n cymryd ysbrydoliaeth ohoni. Ei grym yn curo’n gyson wrth iddi lifo tua’r aber. Ei hegni yn aros.
YNNI OGWEN

HENO, HENO

Dewch o hyd i fersiwn hygyrch fel dogfen Google o’r cerddi yma.
Mae Meleri Davies yn Gyfarwyddwr gwirfoddol gyda Ynni Ogwen ac Ynni Cymunedol Cymru. Mae hi hefyd yn Brif Weithredwr Partneriaeth Ogwen – menter gymdeithasol sy’n datblygu prosiectau adfywio cynaliadwy yn Nyffryn Ogwen. Enillodd wobr Pencampwr Cynaladwyedd Cynnal Cymru a Gwobr Green Energy Pioneer Regen Awards yn 2019. Cyhoeddwyd cyfres o len meicro Meleri yng nghyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Genedlaethol Amgen 2020 a mae rhai o’i cherddi wedi eu cyhoeddi yn Poetry Wales a Ffosfforws 1,2,3 a 5 Cyhoeddiadau’r Stamp. Bydd ei chyfrol cyntaf o farddoniaeth yn cael ei gyhoeddi gan Cyhoeddiadau’r Stamp eleni.
Meleri Davies is a volunteer Director with Ynni Ogwen and Community Energy Wales. She is also Chief Executive of Partneriaeth Ogwen – a social enterprise that develops sustainable regeneration projects in the Ogwen Valley. She won the Cynnal Cymru Sustainability Champion award and the Green Energy Pioneer Regen Awards in 2019. Meleri won first prize for a collection of micro fiction at the Amgen National Eisteddfod 2020 and her poems have been published in Poetry Wales and Ffosfforws 1,2,3 and 5 by Cyhoeddiadau’r Stamp. Her first volume of poetry will be published by Cyhoeddiadau’r Stamp this year.