Cymru, Cristnogaeth a’r Cyfyng-gyngor Ecolegol gan Richard Scott

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gwelwyd llifogydd oherwydd newid yn yr hinsawdd ar draws rhannau o’r DU ac Ewrop, dadleuon o’r newydd ynghylch polisïau lloches wrth i bobl gael eu dadleoli gan amgylchiadau amgylcheddol, a thrafodaethau byd-eang amlycach ynghylch cyfrifoldebau colled a difrod. Nid yw symudiad pobloedd oherwydd chwalfa amgylcheddol bellach yn gysyniad damcaniaethol; mae’n realiti moesol a gwleidyddol presennol. Nid tirweddau yn unig sy’n diflannu; mae cymunedau’n symud, mae hunaniaethau’n newid, ac mae moeseg ‘croeso i’n plith’ yn simsanu. Yn y cyd-destun hwn, mae’r cwestiwn diwinyddol a godwyd mewn cynhadledd gyda’r enw uchod yn ymddangos yn fwyfwy proffwydol: ni all stiwardiaeth fod yn ysbrydolrwydd preifat pan brofir canlyniadau chwalfa amgylcheddol anghyfartal ledled y byd. Mae’r tir yn parhau i lunio diwylliant, ond mae bellach, hefyd, yn datgelu’r ffiniau moesol a gyfyd cymunedau o amgylch perthyn, cyfrifoldeb, a chymod. Yma, mae Richard Scott yn rhoi cipolwg i ddarllenwyr MODRON ar drafodaethau’r gynhadledd ym mis Mehefin 2025. Ers hynny, dim ond dwysáu mae argyfwng y myfyrdodau hyn wedi gwneud.


Beth ydym ni’n ei golli pan gollir ein byd naturiol – ecosystemau yn unig, neu’r straeon a’r hunan a siapiwyd ganddynt? A oes modd i ddiwinyddiaeth hynafol, wedi’i lliwiio gan chwedl a dirgelwch, ddal i sairad yn ystyrlon ag argyfwng pennaf ein hoes? Ac oes yw’r tir wedi siapio’n diwylliant, a’n cof, sut ydym i ymgysylltu’n briodol â’r tir?

Dyma’r math o gwestiynau a gododd ar 10 Mehefin 2025, mewn cynhadledd ysgogol a gynhaliwyd yn Neuadd PJ, Prifysgol Bangor, gan Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, Sefydliad Astudio Ystadau Cymru, ac Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor. Archwiliodd y digwyddiad rhyngddigyblaethol hwn, ‘Tirweddau Beiblaidd’, hanes cyfoethog crefydd a chwedloniaeth yng Nghymru, a sut y mae hyn wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y dirwedd. Trawodd hyn dant penodol, a minnau’n ysgolhaig ifanc mewn Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth, yn arbenigo yn meddwl diwinyddol Eglwys Uniongred y Dwyrain.

Craidd y noson oedd y berthynas gynhenid rhwng dynoliaeth a natur – perthynas gysylltiol lle mae dynoliaeth yn rhoi ystyr i’r tir, tra bod y tir yn siapio diwylliannau a chwedlau. Wrth i’r byd wynebu’r argyfwng ecolegol mwyaf erioed, rydym hefyd yn wynebu argyfwng bodolaeth ddwys. Wrth i ni golli ein hamgylchedd a’n byd naturiol, rydym yn colli’r berthynas synergaidd honno sy’n rhoi chwedloniaeth ddiwinyddol a gwerthoedd diwylliannol inni – straeon sy’n ffurfio ein hunaniaeth. Rydym mewn perygl o golli ein personoliaeth cyn i argyfwng mwy ein dinistrio.

Felly, yng nghyd-destun fy maes ymchwil, sut mae Uniongrededd yn ymateb i hyn?

Fe’m trawyd fod y Beibl, ar yr olwg gyntaf, fel petai’n cynnig ateb sydd wedi dyddio’n wael i gyfyng-gyngor newid yn yr hinsawdd. Meddlier am y darn isod o Efengyl Mathew 6:28-34 sy’n dechrau drwy ofyn:

A pham yr ydych yn pryderu am ddillad? Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu. Ond rwy’n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i’w chymharu ag un o’r rhain. Os yw Duw yn dilladu felly laswellt y maes, sydd yno heddiw ac yfory yn cael ei daflu i’r ffwrn, onid llawer mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd? Peidiwch felly â phryderu a dweud, ‘Beth yr ydym i’w fwyta?’ neu ‘Beth yr ydym i’w yfed?’ neu ‘Beth yr ydym i’w wisgo?’ […] Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a’i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi. Peidiwch felly â phryderu am yfory, oherwydd bydd gan yfory ei bryder ei hun. Digon i’r diwrnod ei drafferth ei hun.

O feddwl bod y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn nodi bod 74% o oedolion yn profi rhyw fath o or-bryder hinsawdd, nid yw’n eironig fod y Beibl yn cyflwyno neges obeithiol mewn trosiadau sydd wedi eu gwreiddio yn y byd naturiol sydd bellach dan fygythiad? A yw’r gobeithion am Ddaear Newydd wedi cael eu difetha gan ein diffyg cyfrifoldeb? Fel y dywedodd Dr Gareth Evans-Jones, siaradwr cyntaf a chyd-drefnydd y digwyddiad:

Mae i’r hen alwad i ‘gadw’ yr ardd’ a ‘thrin y tir’ frys newydd yn ein hoes, oherwydd yr argyfwng ecolegol rydym yn ei brofi. Mae moeseg amgylcheddol yn fwy na nemor bolisi; mae’n fwy na geiriau mewn manifesto plaid wleidyddol […] Mae’n gyfrifoldeb ysbrydol ac yn gyfrifoldeb moesol.

Dyna osod sail y noson, a hynny mewn cyd-destun Cymreig, lle mae’r wlad wedi’i chysegru gan enwau Beiblaidd. Nid yw stiwardiaeth yn ddyletswydd ymarferol, gorfforol, bellach, ond yn gyfrifoldeb ysbrydol, fel y pwysleisiodd Dr Evans-Jones drwy’i astudiaeth o waith eco-ddiwinyddion megis Sallie McFague a Thomas Berry.

Cynigodd yr Athro Angharad Price fyfyrdod teimladwy ynghylch sut mae enwau a delweddaeth feiblaidd yn siapio atgof, hunaniaeth, a llenyddiaeth yng Nghymru. Yn O, Tyn y Gorchudd, tynnodd ar hanes ei theulu er mwyn archwilio sut roedd bywyd gwledig yr 20fed ganrif wedi’i liwio gan iaith a gwerthoedd Cristnogol. Mae ei nofel ddiweddaraf, Nelan a Bo, yn parhau gyda’r thema hon drwy lens y Diwygiad Methodistaidd. Un enghraifft drawiadol oedd ailenwi Rhos Chwilog yn Fethel – a adlewyrchodd hunaniaeth grefyddol a grym trawsnewidiol ffydd ddiwygiol. Dangosodd ei sylwadau treiddgar fod enwau yn fwy nag arwyddion daearyddol yn unig, maen nhw’n fannau meithrin credoau a theimlad o berthyn. Gofynna’r ddwy nofel sut rydym yn cofio – neu’n dehongli – gorffennol cysegredig mewn diwylliant newidiol a thirwedd ysbrydol.

Gan adeiladu ar y pwyntiau a wnaed gan yr Athro Price a Dr Evans-Jones, cynigodd yr Ymchwilydd Doethurol gyda Sefydliadau Ymchwil Ystadau Cymru, Mr Alex Ioannou, safbwynt hanesyddol-ddirfodol craff. Nod Mr Ioannou, fel y dywed ar ei wefan, ‘Reframing Wales’, yw archwilio’r ffaith bod y berthynas rhwng hanesion cyhoeddus lle a newid amgylcheddol wedi bod yn destun ysgolheictod ar draws disgyblaethau, sy’n cyson ymholi am y cysylltiadau rhwng dealltwriaeth gyfunol cymdeithas o’r dirwedd a’n hymgais i ymateb i newid yn yr hinsawdd. O feddwl bod ein bodolaeth ynghlwm annatod â’r tir, mae pob unigolyn yn wynebu argyfwng dirfodol. Mae chwedlau, llên gwerin, a gwerthoedd crefyddol sydd ynghlwm wrth Gymru a’i natur ryfeddol yn araf golli eu gallu i greu’r gydwybod Gymreig. Nid yw newid yn yr hinsawdd yn esgor ar effeithiau allanol – mae’n ailsiapio’n tirweddau mewnol.

Ategwyd hyn gan Dr Martin Crampin (Canolfan Uwchefrydiau Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru), wrth iddo fynd â ni ar daith drwy weithiau celf a ffenestri lliw eglwysi Cymreig a gynhwysai olygfeydd beiblaidd. Darlunnid Crist, yn aml, yn sefyll ger bryniau gleision a oedd yn atgoffaol o dirwedd Cymru (gyda hyd yn oed gastell Harlech mewn un ffenestr lliw!). Roedd y ddelwedd o Grist fel y Bugail Da yn canfod y ddafad goll hefyd yn hynod boblogaidd yn y gydwybod Gymreig. Dangosodd y gwaith celf hwn sut mae dynoliaeth wedi allosod ystyr, hunaniaeth foesol, a chymeriad o’r tir ei hun sydd dan fygythiad yn sgil newid yn yr hinsawdd.

Mae’r nodyn dirfodol hwn yn rhedeg drwy ddiwinyddiaeth Gristnogol Uniongred hefyd, yn enwedig y system a ysbrydolwyd gan St Macsimus y Cyffeswr, lle cred y Cristnogion Uniongred, am ein bod wedi’n creu ar lun a delw Duw, fod yna olion y dwyfol drwy’r Greadigaeth. Mae ein hunaniaeth a’n ffawd wedi eu cysylltu’n agos â’r byd o’n cwmpas. Fel y nododd y diwinydd modern o Rwsia, Vladimir Lossky:

Mae gan bob peth sydd wedi’i greu gyswllt gyda’r Duwdod; a’r man cyswllt hwn yw ei syniad, ei reswm neu ei logos sydd, yr un pryd, y diwedd y mae’n anelu tuag ato. Cynhwysir syniadau pethau unigol o fewn syniadau uwch a mwy cyffredinol, fel ag y mae’r rhywogaeth o fewn genws. Cynhwysir y cyfan yn y Logos, ail berson y Drindod sef yr egwyddor gyntaf a diwedd popeth byw.

A ninnau’n ymgorffori ‘logos’ y Greadigaeth, y mae gennym gyfrifoldeb i gynnig y byd yn ôl i’r dwyfol gyda diolchgarwch, er mwyn creu gwell ddyfodol i ddynoliaeth. Mewn termau seciwlar: mae’n gyfrifoldeb arnom i weithredu, oherwydd bob tro y gwnawn hynny, gadawn olion drwy chwedlau newydd a ysbrydolwyd gan ein hynafiaid. Mae chwedlau a llên gwerin, a’r hunaniaeth a enillwn ohonynt, yn ysbrydoli cymundeb – nid yn unig gyda’r dwyfol, ond ag eraill, yn y presennol a’r dyfodol. Mae colli ein byd naturiol yn gyfystyr â cholli’r perthnasau sydd gennym gyda’n ceraint a’n cymdogion. Yn hytrach na gweithredu fel grymoedd gwahanu, gall chwedlau lleol a ysbrydolwyd gan natur ddodd yn rymoedd sy’n arwain at undod – sy’n annog gwerthfawrogiad, rhannu’n iach, a dealltwriaeth ddyfnach o’n gilydd. Gan dynnu ar St Macsimus, mae natur yn helpu drwy ddod ‘ag undod mewn popeth yn Nuw, lle nad oes rhaniad’, a hynny drwy’r chwedlau a rennir. Pwysleisiwyd hyn yn eglur gan ddau siaradwr arall, y beirdd, Sian Northey a Siôn Aled, a arweiniodd brosiect Llwybr Cadfan ar ran Esgobaeth Bangor, wrth iddynt olrhain eu taith i Ynys Enlli drwy gyfrwng cerddi hynod.

Enghreifftir y math hwn o adlewyrchu arbennig yn y detholiad isod o un o gerddi Siôn Aled, ‘Cyffordd’, a luniodd ym Moduan:

Cerdd: Buost ar bererindod gylchog ers tro maith
yn ffyddio dyfodol
i wlad a wrthodai ei weld.

A heddiw, 
dyma ti,
yn cyffwrdd â thramwyfa’r saint
ennyd 
ar eu taith i’r Ynys.

Aros bydd eu llwybr
pan dry Maes yn borfa drachefn.
Tan tro nesa.

Er y cywair lleddf, yn enwedig yn y penill clo, ceir gobaith hefyd. Mae’r bererindod yn rhan o ‘ffyddio dyfodol’ – un a fydd, yn y bôn, yn well. Pam? Oherwydd bod ein hymwneud â natur yn gysylltiedig â doethineb cynhenid a sancteiddrwydd a feithrinwyd gan ein hynafiaid. Mae’n fath o sancteiddrwydd naturiol na ellir ei efelychu. Felly hefyd, mae ein dyfodol wedi’i wreiddio yn y byd naturiol. Mae’r straeon, y chwedlau a’r llên gwerin a wnaeth Gymru’n sanctaidd yn dal yn fyw ac yn ein siapio, ac yn llythrennol yn byw yn y tir, gyda’r sôn bod 20,000 o saint wedi’u claddu yn naear Ynys Enlli. Ond gall y rhai sy’n galw Cymru’n gartref heddiw ychwanegu gwerthoedd a straeon newydd i’r tir a’r ddaear, er mwyn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Yn y cyd-destun Beiblaidd, fe’n sicrheir y bydd natur yn gyfrwng adferiad dynoliaeth:

Ar ddwy lan yr afon yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg cnwd, gan roi pob cnwd yn ei fis; ac yr oedd dail y pren er iachâd y cenhedloedd (Datguddiad 22:2).

Yn wir, cyfleodd y sgwrs ei hun y ffurfiau celfyddydol newydd sydd wedi’u hysbrydoli gan Gymru, gan ddangos grym natur i feithrin cymundeb. Enghreifftwyd hyn ymhellach gan Joe Cooper, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant, a rannodd ei gyfansoddiadau litwrgaidd ac addoli a ysgrifennwyd ar gyfer yr Eglwys Gadeiriol. Wedi’i ysbrydoli gan dirlun Cymru, pwysleisiodd ei gerddoriaeth undod y dwyfol â’r byd naturiol, gan atgyfnerthu ein dibyniaeth ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru – a amlygwyd yn effeithiol drwy gyfeirio at y bardd o’r 16eg ganrif, Dafydd Trefor. Eglurodd Cooper na allai’r gerddoriaeth hon fod wedi’i geni ond o ymgysylltu byw â thraddodiadau Cymreig, wedi’u gwreiddio yn y tir yr ydym yn sefyll arno. Mae’n arwydd fod gobaith yn dal i fod yn wyneb argyfwng ecolegol. Yn wir, nid yw’r gymhariaeth ecolegol yn Efengyl Mathew 6 yn hollol anaddas hyn o beth. Fel y dangoswyd drwy’r gerddoriaeth a’r ddiwinyddiaeth hon, mae gennym gyfrifoldeb tuag at natur – ac felly tuag at ein cymydog. Mae’r ymrwymiadau hyn yn ffurfio sylfaen ein gobaith ar y cyd ar gyfer ein Byd naturiol.

Wedi clywed y sgyrsiau a mwynhau’r arddangosfa wych, fe’m gyrrwyd i fyfyrio – gan ddechrau gyda phryder ond gorffen mewn gobaith. Ynghyd â’m hastudiaethau presennol ym maes Diwinyddiaeth Uniongred Ddwyreiniol, cadarnhawyd i mi fod hon yn ddegawd ar gyfer newid – i adfer ein byd a’n cymeriad fel bodau dynol sy’n chwilio am gymundeb, drwy wynebu newid hinsawdd. Ac fel y dywedodd St Macsimus, drwy ymgorffori dyletswyddau stiwardiaeth, bydd ‘y person dynol yn uno’r baradwys â’r byd preswyl i greu un ddaear […] wedi’i chasglu ynghyd.’ Boed yn grefyddol neu beidio, mae i’r geiriau hyn arwyddocâd cyffredinol.


Mae Richard Scott yn Ymchwilydd PhD mewn Diwiniyddiaeth Gristnogol ac Astudiaethau Mormonaidd ym Mhrifysgol Bangor, dan gyfarwyddyd Dr Gareth Evans-Jones. Sail ei thesis yw astudiaeth gymharol rhwng Eglwys Uniongred y Dwyrain ac Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf, a’u safbwyntiau ynghylch iachawdwriaeth a dwyfoli.