
Ebrill
Diwrnod y ddaear, 22/04/2026

Mae Megan Lloyd yn sgwennwr, hwylusydd a pherfformiwr o Eryri.
Mae ei gwaith yn ymddangos mewn sawl blodeugerdd yn cynnwys O Ffrwyth Y Gangen Hon a Trysorau’r Nadolig (Barddas) a sawl copi o Ffosfforws (Cyhoeddiadau’r Stamp). Bydd hi’n cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi yn 2026 gyda Cyhoeddiadau’r Stamp.
Hi yw @gwaithpapur a chydlynydd prosiect ‘Gwreiddio’. Dan ei harweiniad ac arbenigwyr natur gwahanol, cafodd y cyfranogwyr gyfle i gysylltu â’r tir, meithrin eu lles drwy ysgrifennu, a dathlu’r Gymraeg mewn gofod creadigol, myfyriol a chefnogol. Roedd yn rhan o brosiect ‘Sgwennu’n Well’ wedi’i ariannu gan Lenyddiaeth Cymru.