Barddoniaeth Diwrnod y Ddaear o weithdai ‘Gwreiddio’ gan Megan Lloyd

Dyma gerddi a ysbrydolwyd gan, ac a ysgrifennwyd yng Ngweithdai ‘Gwreiddio’. Daeth y prosiect cymunedol â phobl ynghyd yng Nghaban Brynrefail, ac ar y llwybrau cyfagos ar gyfer cyfres o weithdai ysgrifennu wedi’u hysbrydoli gan natur a thirwedd Dyffryn Peris. Dan arweiniad Megan Lloyd ac arbenigwyr natur gwahanol, cafodd y cyfranogwyr gyfle i gysylltu â’r tir, meithrin eu lles drwy ysgrifennu, a dathlu’r Gymraeg mewn gofod creadigol, myfyriol a chefnogol. Roedd yn rhan o brosiect ‘Sgwennu’n Well’ cafodd ei ariannu gan Lenyddiaeth Cymru.


MELDA LOIS

Gwanwyn

ac unwaith eto, ‘da ni'n cyrraedd y gorwel. 
Ymestyn fy mreichiau,
Gadael i'm ll’gadau addasu,
Ac ail-ddysgu i wyro tua'r golau. 
Af ar fy ngliniau i chwynnu,
a chlirio brigau brau y gaeaf o fy mhen. 
Bob blwyddyn,
mae'r dydd dal yno,
yn aros amdana’i.
Yn fy ngwadd i'w gofleidio. 
A dwi'n rhyddhau fy hun o risgl y gaeaf. Gadael i'r golau gyffwrdd fy nghroen. Deud ‘haia’ i'r haul unwaith eto - 
a menthyg mymryn o'i hud a'i hedd i’m harwain ar lwybrau newydd.

Mae Melda Lois yn gerddor/gyfansoddwraig a bardd o ardal Llanuwchllyn, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi mewn llyfrau a phamffledi gan gynnwys O Ffrwyth y Gangen Hon; Cymry Balch Ifanc; Ffosfforws 6 & 7, a Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+. Mae wrth ei bodd yn cyfuno ei chariad at gerddoriaeth a barddoniaeth, ac mae bod yn rhan o brosiect Kathod a pherfformio fel rhan o  Creiriau wedi bod yn uchafbwyntiau iddi o ran hynny.


SIONED SPENCER

Dideitl


Mae Sioned Spencer yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy ond bellach yn byw yng nghyffiniau Abergele. Mae’n mwynhau treulio amser ym myd natur, ac ysgrifennu amdano weithiau.