Pan fo’r byd yn mynd yn fach
Pan ddaw y diagnosis
neu’r ddedfryd,
pan fo ganddom ryw syniad
ar galendr
neu yn y galon
faint sydd ar ôl,
waeth heb â rhefru.
Edrychwn bob bore ar y planhigyn
mae’n cariad wedi’i osod
lle y gallwn ei weld
ar sil y ffenest,
a chanwn hwiangerddi
i gysuro’r pry copyn yn y gornel
cyn i’w we yntau
gael ei ’sgubo i ebargofiant
gan y ddynes llnau.
Mae Sian Northey yn fardd, awdur, cyfieithydd, golygydd a chyw ddramodydd, ac yn ysgrifennu bron yn gyfangwbl yn Gymraeg (er ei bod wedi bod yn arbrofi ychydig efo Saesneg yn ddiweddar). Ei chyfrol ddiweddaraf o’i gwaith ei hun yw Cylchoedd (Gwasg y Bwthyn, 2020), casgliad o straeon byrion gyda ffotograffau gan Iestyn Hughes.
Sian Northey is a poet, author, translator, editor and wannabe playwright, who works almost completely in Welsh (though she has been experimenting more with English recently). Her latest volume of her own work is Cylchoedd (Gwasg y Bwthyn, 2020) a collection of short stories paired with photographs by Iestyn Hughes.