Cerddi Cof y Dŵr (1)
Dŵr barlys, dŵr llonydd,
dŵr calch, dŵr bedydd;
dŵr bendigaid, dŵr ffrwd,
dŵr byw, dŵr brwd;
dŵr cadarn, dŵr daear,
dŵr caled, dŵr claear;
dŵr croyw, dŵr ennaint,
dŵr du, dŵr fy henaint;
dŵr dilyw, dŵr codi,
dŵr glaw, dros-ben-llestri …
dŵr y môr, dŵr mân,
dŵr ffynnon, golch-fi’n-lân …
dŵr hallt, dŵr glas,
dŵr dwfn fy-eisiau-bas;
dŵr llwyd, dŵr llanw,
dŵr pwmp, werth-ei-gadw;
dŵr pwll, dŵr tap,
dŵr marw, dŵr hen fap,
dŵr pair, dŵr swyn,
dŵr y don gas ei dwyn.
MERERID HOPWOOD is Professor of Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth and secretary of Academi Heddwch Cymru. She has spent her career studying and teaching languages and literature. She won the Chair and Crown for poetry and the Prose Medal at the National Eisteddfod, as well as the Welsh Book of the Year Prize in the poetry category for her collection Nes Draw. She has been Children’s Laureate for Wales and takes great pleasure in writing books for children. She has worked with many musicians and composers in Wales and abroad. This year she will receive the Hay Festival Medal for Poetry.
Mae MERERID HOPWOOD yn Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ac yn ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru. Treuliodd ei gyrfa yn astudio a dysgu ieithoedd a llenyddiaeth. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwobr Llyfr y Flwyddyn, categori barddoniaeth, am ei chyfrol Nes Draw. Bu’n fardd plant Cymru ac mae wrth ei bodd yn llunio llyfrau plant. Mae wedi gweithio gyda nifer o gerddorion a chyfansoddwyr yng Nghymru a thramor. Eleni bydd hi’n derbyn Medal Gŵyl y Gelli am Farddoniaeth.