A Poem by Grug Muse

Penglog

Cymerais i ddechrau ei fod yn fath o flodyn.

Un prin, ac anghyfarwydd, ei betalau

wedi naddu fel cangell eglwys

yn wag ac ymestynnog.

Ond doedd o ddim.

Bu yno, mae’n siŵr

ers misoedd, yn diosg

cnawd a phlufiach.

Yn aros i gael ei ganfod

yn noeth a gwyn.

Roedd hi’n Ebrill, ac roedd gwenoliaid

ac adar gwrwm bach

yn gwneud sôn amdanyn nhw eu hunain

uwch y stryd.

Does neb angen cerdd natur arall,

a nid dyna ydi hon. Mae hi’n gerdd

am esgyrn ac eglwysi a phethau yr hoffwn dorri.


Mae Grug Muse yn fardd ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle. Daeth ei chyfrol ddiweddaraf, merch y llyn i’r brig yng nghategori barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn, 2022. Mae hi’n un o sylfaenwyr a golygyddion Cyhoeddiadau’r Stamp a chylchgrawn barddoniaeth Ffosfforws. Mae hi hefyd yn un o gyd-olygyddion y gyfrol Welsh (plural) (Repeater, 2022), cyfrol o ysgrifau sy’n dychmygu Cymru gynhwysol a neilltuol.